I rai, mae rhesymau meddygol dros eu hanallu i wisgo mwgwd wyneb ac am y rheswm hwnnw, rhoddir eithriadau iddynt o ganllawiau'r llywodraeth (Eithriadau yn Lloegr, Eithriadau yng Nghymru, Eithriadau yn yr Alban, Eithriadau yng Ngogledd Iwerddon).
Mae’r elusen iechyd meddwl MIND wedi ystyried yr anawsterau a wynebir gan bobl sy’n dueddol o ddioddef o bryder sy’n anodd ei reoli ac yn arbennig y pryderon sy’n gysylltiedig â masgiau wyneb. Gall hyn fod yn bryder wrth geisio gwisgo mwgwd wyneb, ond gall hefyd gynnwys pryder a achosir pan nad ydych yn gwisgo mwgwd wyneb mewn sefyllfaoedd lle bydd llawer o bobl eraill yn gwisgo un. Mae MIND wedi ysgrifennu tudalen wybodaeth ddefnyddiol sy'n mynd i'r afael â'r holl anawsterau hyn ac yn cynnig awgrymiadau ar sut i reoli'r emosiynau hynny - hyd yn oed y rhai sy'n gwisgo mwgwd wyneb ac sy'n teimlo'n bryderus am fod o gwmpas eraill nad ydynt yn gwisgo un.
Gall pob un ohonom ddioddef o bryder pan fyddwn yn cael ein rhoi mewn sefyllfaoedd anghyfarwydd, anarferol neu anghyfforddus - yn fwy na dim mewn pandemig byd-eang - felly mae rhywbeth i'w ddysgu i'r mwyafrif ohonom yn yr erthygl hon